
Yn gweithredu bob dydd Gwener, dydd Sadwrn a dydd Sul o 9fed o Gorffennaf tan 12fed o Fedi.
Oherwydd cyfyngiadau o ran y llanw mewn rhai mannau, bydd unwaith eto gwasanaeth llawn a gwasanaeth cyfyngedig y flwyddyn yma. Bydd y gwasanaeth llawn yn cynnwys Aberdaugleddau, Dale ac Angle efo gwasanaeth cyfenedig yn rhedeg rhwng Aberdaugleddau, Neyland & Hobbs Point. Oherwydd hyn a hyn o le sydd ar a cwch fe fydd rhaid galw I cadw lle. Am ymholiadau ac archebion galwych 01437 776267 yn ystod oriau gwaith. Fe fydd amserlenni ar gyfer y gwasanaeth yn cael eu harddangos ar y pontynau yn ogystal â bod ar gael o Ganolfannau Croeso. Bydd y gwefannau canlynol hefyd yn arddangos yr amserlenni a gwybodaeth berthynol: Lonydd Glas Sir Benfro, , Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau PLANED.
Arweinir y gwasanaeth gan Lonydd Glas Sir Benfro, ar y cyd ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, yn ogysta a cefnogaeth y partneriaid ychwanegol sef Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau a PLANED.
P'un ai eich bod chi'n cerdded ar hyd llwybr yr arfordir, beicio neu ddim ond yn dymuno cael diwrnod allan, mae Havenlink yn rhoi'r cyfle i chi adael y car a phrofi taith ddi-straen. Cynlluniwyd gwasanaeth cludiant d?r Havenlink i'w integreiddio i gysylltiadau cludiant sydd eisoes yn bodoli, yn cynnwys y gwasanaeth bysys arfordirol a hyrwyddir gan Lonydd Glas Sir Benfro.
Dywedodd Rhian Higgins, Swyddog Lonydd Glas Sir Benfro sy'n hyrwyddo'r cynllun, 'Rydym wth ein boddau y gallwn gynnig gwasanaeth eto ar gyfer 2010 mae gennym lawer i'w wneud o hyd, ond po fwyaf o bobl sy'n cefnogi'r gwasanaeth, y mwyaf o gyfleoedd y bydd i'w ddatblygu yn y dyfodol.'
Gweithredir y gwasanaeth hwn gan Rudders Boatyard ar ran partneriaeth Havenlink.
Ebost: havenlink@ruddersboatyard.co.uk
Gwefan: www.ruddersboatyard.co.uk
