Pembrokeshire Greenways \ Lonydd Glas Sir Benfro

Menter i annog trigolion lleol ac ymwelwyr, o bob gallu, i fynd i gefn gwlad trwy ddefnyddio dull cynaliadwy o deithio, yn cynnwys cerdded, seiclo, bysiau a threnau, yw Lonydd Glas Sir Benfro

Walker's Bus

Cerdded

Gyda nifer fawr o fudiadau yn cynnig gwybodaeth am deithiau cerdded mae Lonydd Las (Greenways) wedi gwneud pethau’n haws i chi ddod o hyd i’r daith gerdded iawn ar eich cyfer. Lawrlwythwch ac argraffu eich mapiau eich hun er mwyn cerdded heddiw!

Seiclo

Mae Sir Benfro yn baradwys i seiclwyr, gyda channoedd o filltiroedd o lonydd tawel, gwledig, llwybrau di-draffig a llwybrau oddi ar y ffordd fawr ar gyfer pob gallu i’w mwynhau. Beth am wybod mwy trwy argraffu map heddiw!

Day Tripper

Bws a Trên

Mae gwasanaethau bws a thrên Sir Benfro yn cynnig mynediad rhwydd i gefn gwlad ac yn ffordd hynod o hardd i fynd o gwmpas y sir.

Twristiaeth

Os ydych chi’n ymwelydd â Sir Benfro profwch rhai o’r nwyddau twristaidd lleol sydd ar gael, sy’n cynnwys gwyliau seiclo neu gerdded “gwyrdd” a theithiau cerdded hunan dywysedig ar hyd Llwybr Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro.

Mae partneriaid Lonydd Glas yn cynnwys:

partners logos
Developed by Pembrokeshire County Council - Datblygwyd gan Cyngor Sir Penfro