Pembrokeshire Greenways \ Lonydd Glas Sir Benfro

CERDDED

Cerdded yn Sir Benfro – mae’n amrywiol ac mae digonedd ohono.  Yn union yr un fath â’r wybodaeth!  Diben y rhestr ganlynol yw eich helpu i ddod o hyd i’r wybodaeth y mae arnoch ei hangen er mwyn mynd i gefn gwlad.

Darllenwch i lawr y dudalen, dod o hyd i’r daith gerdded sy’n addas ar eich cyfer a chlicio ar y ddolen ar gyfer gwybodaeth fanwl:

Llwybr Cenedlaethol Llwybr Arfordir Sir Benfro
Llwybr cerdded hirfaith yw Llwybr Arfordir Sir Benfro sy’n dilyn arfordir Sir Benfro i gyd, o Landudoch hyd at Lanrhath.  Mae yno olygfeydd bendigedig a rhywbeth i bawb ei fwynhau ar hyd y llwybr 186 milltir (299km).
www.pembrokeshirecoast.org.uk (mewn ffenest newedd)
www.greenwaysholidays.co.uk (mewn ffenest newedd)

Teithio Cerdded Byr o Drefi Sir Benfro
I DDOD YN FUAN:
Cyngor Sir Penfro yn cyflwyno cyfres o deithiau cerdded byr o drefi – cyfle gwych i weld y wlad ar eich stepen drws.  Bydd yno ryfeddodau i’ch rhyfeddu!

Teithiau Cerdded Byr yn y Parc Cenedlaethol
Trwy ddefnyddio cyfleuster chwilio teithiau cerdded y Parc Cenedlaethol mae gyda chi ddigonedd o ddewis – mwy na 100 taith gerdded ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro.  Mae gwasanaeth bws yn mynd at y rhan fwyaf ohonynt.  Ymysg y teithiau cerdded sydd wedi’u rhestru mae teithiau cerdded am hanner diwrnod a diwrnod llawn, wâc fach hamddenol neu ddwy, yn ogystal â theithiau cerdded mynediad rhwydd ac ar gyfer cadeiriau olwyn.  Beth am lawrlwytho ac argraffu eich map cerdded a’ch amserlen bws heddiw!
www.pembrokeshirecoast.org.uk (mewn ffenest newedd)

Teithiau Cerdded Lonydd Glas – ar y Bws a’r Trên

Mae Lonydd Glas Sir Benfro wedi llunio cyfres o deithiau cerdded a gallwch deithio ar y bws neu’r trên i fynd atynt.  Mae Cludiant Cyhoeddus yn wych - does dim rhaid ichi yrru, cewch weld golygfeydd bendigedig dros y cloddiau a byddwch yn gwneud eich rhan er mwyn gwarchod yr amgylchedd lleol.
www.planed.org.uk (mewn ffenest newedd)

Teithiau Cerdded Hirfaith Lonydd Glas
Os hoffech drefnu eich gwyliau teithiau cerdded byr eich hunan, yna mae gyda Lonydd Glas dair taith gerdded hirfaith 60 milltir, y gallwch eu cwpla mewn 5 diwrnod.  Ymysg y teithiau cerdded mae Llwybr hanesyddol y Landsger a Thaith Gron y Preseli.
www.planed.org.uk (mewn ffenest newedd)

Llwybrau Mynediad Rhwydd
Os taw dim ond hyn a hyn o bellter y gallwch ei gerdded, oherwydd eich oed, iechyd neu anabledd, yna beth am chwilio am deithiau cerdded ‘mynediad ‘rhwydd’ a ‘chadeiriau olwyn’.  Ar y llwybrau hyn mae gwell arwynebau, rhiwiau nad ydynt yn serth, a dim sticlau na gatiau trafferthus o gwbl.  Mae’r teithiau cerdded byr wedi’u rhestru ar y gwefannau canlynol:
www.pembrokeshirecoast.org.uk (mewn ffenest newedd)
www.pembrokeshire.gov.uk/scooting (mewn ffenest newedd)

Llwybrau i Gadeiriau Olwyn a Sgwteri

Mae’r arweiniad hwn ynghylch “teithiau cerdded” rhwydd eu cyrraedd yn Sir Benfro, yn dangos y llwybrau y gall y rhan fwyaf o sgwteri trydan fynd atynt.  Gyda chymorth, gall cadeiriau olwyn gwthio â llaw fynd atynt hefyd.
www.pembrokeshire.gov.uk/scooting (mewn ffenest newedd)

Teithiau Cerdded i Fabanod a Phlantos Bach

Os hoffech wybod ble y gallwch chi fynd am wâc gyda’ch baban neu blentyn bach, yna dylech fwrw golwg ar y ddau safle hyn.  Yma fe gewch fanylion y llwybrau sy’n addas ar gyfer cadeiriau olwyn a’r llwybrau mynediad rhwydd - perffaith ar gyfer plantos bach a babanod mewn bygis.
www.pembrokeshire.gov.uk/scooting (mewn ffenest newedd)

www.pembrokeshirecoast.org.uk (mewn ffenest newedd)

Mynd am Wâc â Babanod a Phlantos .pdf (mewn ffenest newedd)

 

partners logos
Developed by Pembrokeshire County Council - Datblygwyd gan Cyngor Sir Penfro