Pembrokeshire Greenways \ Lonydd Glas Sir Benfro

YMWELD Â SIR BENFRO

Os taw ymweld â Sir Benfro ydych chi beth am fwrw golwg ar rai o’r dolenni canlynol lle cewch syniadau ynghylch ble i fynd a beth i’w wneud.

Ymweld â Sir Benfro
Os taw ymweld â Sir Benfro ydych chi yna beth am fwrw golwg ar ein gwefan twristiaeth.  Mae yno lawer o wybodaeth ddefnyddiol ynghylch sut i ddod yma, ble i aros a beth y gallwch ei wneud ar ôl cyrraedd.
www.visitpembrokeshire.com (mewn ffenest newedd)

 

 

 



Gwyliau Lonydd Glas

Os ydych chi’n gobeithio cael gwyliau mwy cynaliadwy, yna gall Lonydd Glas eich helpu i ddianc rhag y byd a’i bethau – gyda’r gwyliau cerdded hunandywysedig, seiclo a threftadaeth sydd gyda ni.  Ymysg y llwybrau teithio mae Llwybr Arfordir Sir Benfro a’r Llwybr Celtaidd.  Mae gwasanaethau trosglwyddo bagiau a gorsafoedd ar gael.
www.greenwaysholidays.com (mewn ffenest newedd)

Llwybr yr Arfordir – ar y Bws a’r Trên

I gael syniadau ynghylch sut i gerdded ar hyd Llwybr Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro gan ddefnyddio ein rhwydwaith bysiau a threnau lleol, beth am fwrw golwg ar wefan y Parc Cenedlaethol er mwyn cael teithiau yr ydym yn eu hawgrymu.
www.pembrokeshirecoast.org.uk (mewn ffenest newedd)
www.greenwaysholidays.com (mewn ffenest newedd)

 

 

 


Gweithgareddau a Digwyddiadau’r Parc Cenedlaethol

Gallwch ddefnyddio cludiant cyhoeddus i fynd at lawer o’r gweithgareddau a’r digwyddiadau yn y Parc Cenedlaethol.  Ewch ati i gael rhagor o wybodaeth am yr amrywiaeth aruthrol o weithgareddau a gynigir, o deithiau cerdded tywysedig hyd at fynd am dramp i weld pyllau glan môr.
www.pembrokeshirecoast.org.uk (mewn ffenest newedd)

Arweinlyfr Digwyddiadau Sir Benfro

Dim syniad ble i fynd na beth i'w wneud chwaith? Yna beth am fwrw golwg ar y digwyddiadau a gynhelir yn y sir.
www.visitpembrokeshire.com/events (mewn ffenest newedd)

Bwyd Sir Benfro

O ran amrywiaeth, safon a blas ei chynnyrch mae Sir Benfro yn bantri naturiol.  Gyda’i hinsawdd mwyn a’i phridd ffrwythlon mae’r Sir yn cynhyrchu amrywiaeth aruthrol o gynnyrch - o lysiau a ffrwythau meddal ffres hyd at gig eidion a chig oen o’r radd flaenaf, cynhyrchion llaeth arobryn a llawer rhagor.
www.pembrokeshire.gov.uk/food (mewn ffenest newedd)

 

partners logos
Developed by Pembrokeshire County Council - Datblygwyd gan Cyngor Sir Penfro