
Gwasanaethau bysiau lleol
yw Gwasanaethau Bysiau Arfordirol Sir Benfro ac maent yn teithio ar hyd yr
arfordir, ar saith diwrnod yr wythnos yn ystod yr haf - ac ar dri diwrnod yr
wythnos yn y gaeaf. Gyda’r bysiau hyn mae teithiau
cerdded, traethau, teithiau cychod, pentrefi ac atyniadau lleol o fewn cyrraedd
pawb. Mae 5 ohonynt i gyd, sef
Roced Poppit – gwasanaeth 405
Gwibiwr Strwmbl – gwasanaeth 404
Y Gwibiwr Celtaidd – gwasanaeth 403
Y Pâl Gwibio – gwasanaeth 400/315
Gwibfws yr Arfordir – gwasanaeth 387/388
Maent yn helpu pobl leol ac ymwelwyr i deithio i’r arfordir heb orfod defnyddio car. Ni waeth pa ddiddordeb sydd gyda chi, mae gwasanaethau bysiau’r arfordir yn berffaith ar eich cyfer chi!
Gallwch ddefnyddio bysiau’r
arfordir i fynd ar siwrneiau ‘mas’ ac ‘yn ôl’ hefyd,
neu gallwch deithio mas ar y bws ac yna cerdded yn ôl i’ch man
cychwyn. Felly gallwch gerdded ar hyd Llwybr yr Arfordir mewn un cyfeiriad,
heb orfod aildroedio’r un llwybr.
Mae’n rhwydd dala bws yn Sir Benfro. Bysiau ‘Galw Cerbyd’ yw
pob un o fysiau’r arfordir yn ardaloedd gwledig y sir; felly ’does
raid ichi ond rhoi arwydd i’r gyrrwr stopio’r bws. Gall teithwyr
fynd ar neu oddi ar y bws mewn unrhyw fan ar hyd ei lwybr teithio – cyn
belled â’i bod hi’n ddiogel i’r gyrrwr wneud hynny.
Bydd y bysiau’n cadw at amserlen, sy’n dangos ble mae’r safle bysiau. Mewn trefi gallwch chi ddala’r bws mewn safle bysiau swyddogol, ond pan ydych chi yng nghefn gwlad, bysiau ‘Galw Cerbyd’ fyddant hwy - sy’n golygu nad oes rhaid ichi fynd at safle bysiau er mwyn dala’r bws. Ewch at yr heol, a rhoi arwydd i’r gyrrwr stopio’r bws wrth iddo nesáu.
Mae ein gyrwyr lleol yn hynod wybodus am yr ardal a byddant yn eich helpu i ddweud yn union ble y dylech chi fynd ar ac oddi ar y bws, ar gyfer mynd ar deithiau cerdded. Byddant hefyd yn gwybod ble mae pen eich siwrnai neu’n gallu argymell un!
Yr Haf: Bydd holl fysiau’r arfordir ar fynd ar saith
diwrnod yr wythnos yn yr haf, rhwng mis Mai a Medi.
Y Gaeaf: Bydd Roced Poppit, Gwibiwr Strwmbl, y Pâl Gwibio a Gwibiwr yr
Arfordir yn cadw at amserlen gaeaf o fis Hydref tan Ebrill – pan fydd
llai o siwrneiau ar gael.
Ydynt!
Mae pedwar o’r pum bws arfordirol yn gweithredu nawr, sef Roced
Poppit, Gwibiwr Strwmbl, Y Pâl Gwibio a Gwibfws yr Arfordir. Maent yn
cynnig gwasanaeth cyfyngedig yn ystod y gaeaf, am fod llai o alw bryd hynny – ond
maent yn dal i deithio!
Yn ogystal â’r bysiau hyn mae gwasanaethau bysiau lleol yn gweithredu
trwy gydol y flwyddyn, gyda gwasanaethau cyfyngedig ar y Sul yn yr haf. Am
ragor o wybodaeth gweler isod y ddolen ag ‘Amserlenni Bysiau’
Bydd bysiau’r arfordir yn gweithredu ar saith diwrnod yr wythnos trwy gydol yr haf, gan gadw at yr un amserlen bob dydd. Ie - hyd yn oed ar ddyddiau Sul a Gwyliau’r Banc! Bydd amserlen haf 2008 yn dechrau ar ddydd Sadwrn Mai 3ydd 2008, a bydd amserlenni ar gael yn y Flwyddyn Newydd. Byddant wedi’u hargraffu yn Coast to Coast hefyd.
Bydd gwasanaethau bysiau arfordirol Sir Benfro yn teithio lan a lawr arfordir y Parc Cenedlaethol. Felly gall cludiant cyhoeddus fynd â phobl at unrhyw fan ar hyd Llwybr Cenedlaethol Llwybr Arfordir Sir Benfro sy’n ymestyn am 186 milltir (299km) o Landudoch i Lanrhath.
Mae’n anodd dodi union
bris teithio ichi; gwasanaethau lleol cofrestredig yw bysiau’r arfordir, â phrisiau
teithio wedi’u trefnu’n
gyfatebol i hynny. Os hoffech wybod beth yw’r pris byddwch cystal â ffonio’r
cwmni bysiau’n uniongyrchol; mae’r manylion cysylltu i’w
gweld ar yr amserlenni.
Mae pawb sy’n meddu ar Gerdyn Bws Cymru Gyfan yn cael teithio am ddim
ar fysiau’r arfordir – does raid ichi ond dangos eich cerdyn i’r
gyrrwr.
TOCYN CRWYDRO GORLLEWIN CYMRU - Os ydych chi’n teithio ar b?er o fysiau
mewn un diwrnod yna mae Tocyn Crwydro Gorllewin Cymru’n cynnig bargen
fendigedig. Mae’r tocynnau’n ddilys ar gyfer teithio trwy’r
dydd (un diwrnod yn unig); y pris yw £6.20 i oedolion a £4.20 i
blant. Gall plentyn sy’n teithio yng nghwmni oedolyn sydd â Thocyn
Crwydro Gorllewin Cymru deithio am £3.15. Gofynnwch i’r gyrrwr
bws am Docyn Crwydro Gorllewin Cymru ar y bws cyntaf y byddwch yn ei ddefnyddio
ar y diwrnod.
Os ydych chi’n bwriadu defnyddio cludiant cyhoeddus i deithio i Sir Benfro
ac y byddwch chi’n gwneud defnydd helaeth o fysiau a threnau er mwyn
teithio o amgylch, yna beth am PAS FFLECSI CRWYDRO CYMRU? Mae pob un o fysiau’r
arfordir yn ei dderbyn. Mae dolen i’w gweld isod.
Mae holl amserlenni bysiau’r arfordir ar gael i’w lawrlwytho a’u hargraffu oddi ar y wefan hon. Cliciwch ar ‘Amserlenni’ yn adran cludiant cyhoeddus. Os hoffech inni anfon taflen amserlenni atoch trwy’r post, byddwch cystal ag anfon e-bost at Lonydd Glas Sir Benfro: greenways@pembrokeshire.gov.uk
Mae’n rhwydd! Dewch i Sir Benfro ar y trên, bws neu fferi ac yna defnyddio’r bysiau i fynd ar hyd y fan. Mantais defnyddio bysiau’r arfordir yw y gallwch chi gerdded ar hyd Llwybr yr Arfordir mewn un cyfeiriad heb orfod becso am fynd i mo’yn y car ar derfyn y dydd. Trwy ddefnyddio’r bysiau i fynd lan a lawr yr arfordir gallwch chi aros yn eich llety am ragor o nosweithiau. I gael syniadau am deithiau gweler adran ‘Llwybr yr Arfordir’.
Cewch, mae croeso i’ch ci deithio ar y bws (os yw’r gyrrwr yn cytuno) cyn belled â bod eich ci’n lân, ar dennyn a’i fod yn eistedd ar y llawr a mas o ffordd y teithwyr eraill. Da chi – byddwch yn berchennog cyfrifol ar eich ci a glanhewch ar ôl eich anifail anwes – a gadael dim ond olion pawennau os gwelwch yn dda!
Yn anffodus, does
gyda ni ond un bws sy’n cludo beiciau, ond mae Lonydd
Glas am wella pethau at y dyfodol. Gall Gwibfws yr Arfordir, sy’n teithio
o Benfro, gludo: 2 feic, byrddau brigdonni ac 1 cadair olwyn. Erbyn hyn gallwch
chi gadw lle i’ch beic – ymlaen llaw – cyn teithio ar y bws
trwy ffonio Cwmni Bysiau Silcox ar: 01646 683143 (Llun-Gwener, yn ystod oriau
swyddfa).
Cofiwch – gallwch chi fynd â beiciau ar drenau hefyd: 2 feic ar
Trenau Arriva Cymru a 6 beic ar Drenau First Great Western.
Os yw’ch gr?p yn cynnwys 8+ o bobl a’ch bod yn dymuno
defnyddio bysiau’r arfordir yna byddwch cystal â chysylltu â’r
cwmni bysiau priodol cyn teithio, er mwyn cael gair am eich trefniadau teithio
(Llun-Gwener, yn ystod oriau swyddfa). Mae rhifau’r cwmnïau bysiau
i’w gweld ar yr amserlen bysiau.
Mae bws cymunedol Bloomfield i gerddwyr yn gallu cludo cerddwyr o Arberth i’r ardal hardd oddi amgylch. Mae’r gwasanaeth hwn yn gweithredu bob dydd Sul o ddechrau mis Mai tan ddiwedd mis Medi
Cwestiynau Cyffredin.
