Pembrokeshire Greenways \ Lonydd Glas Sir Benfro

SEICLO

Paradwys y seiclydd yw Sir Benfro, gyda lonydd gwledig tawel, llwybrau coedwig a llwybrau di-draffig i bawb eu joio.

Gyda’r rhestr hon fe gewch help i ddod o hyd i’r wybodaeth y mae arnoch ei hangen er mwyn ichi fynd i gefn gwlad.  Mae rhagor o wybodaeth fanwl i’w chael yn:
www.cyclepembrokeshire.com (mewn ffenest newedd)

Seiclo a Reidiau Undydd i’r Teulu

Mae un neu ddau o fapiau seiclo ar-lein newydd yn cael eu datblygu i helpu teuluoedd i fynd i weld Sir Benfro ar gefn beic.
Bydd y mapiau i’w cael ar-lein yn y Gwanwyn yn:
www.cyclepembrokeshire.com (mewn ffenest newedd)

Y Dramffordd (PDF)

Teithiau Dydd yn Sir Benfro

Dewch i weld y cefn gwlad ar stepen eich drws drwy gyfres o deithiau beicio o’r trefi newydd: Ceinewydd, Abergwaun, Tyddewi, Hwlffordd, Aberdaugleddau, Penfro, Dinbych y Pysgod a Saundersfoot. Gallwch lwytho map, disgrifiad o’r daith a llun heddiw.
www.cyclepembrokeshire.com (mewn ffenest newedd)

Taith ar Gefn Beic – Y Llwybr Celtaidd
Ar gyfer y seiclwyr brwd mae gyda ni ‘Y Llwybr Celtaidd’, sef Llwybr 4 & 47 y Rhwydwaith Seiclo Cenedlaethol. Mae’r llwybr hwn yn dechrau wrth Bont Hafren ac yn ymdroelli am 200 milltir ar draws De Cymru, cyn dod i ben yn Abergwaun.

Mae’r rhan fwyaf o’r Llwybr Celtaidd yn Sir Benfro yn mynd ar hyd lonydd gwledig tawel, a thrwy Saundersfoot, Dinbych-y-pysgod, Penfro, Hwlffordd, Tyddewi, Abergwaun Crymych a Threfdraeth. Gyda’r llwybr hwn fe gewch chi ddiwrnod bendigedig yn seiclo yn Sir Benfro.
www.cyclepembrokeshire.com (mewn ffenest newedd) 
www.greenwaysholidays.com (mewn ffenest newedd)
www.sustrans.org.uk (mewn ffenest newedd)


Gwyliau Seiclo
Mae Saundersfoot a Threfdraeth wedi cael eu dynodi yn ‘ganolfannau seiclo’ yn Sir Benfro ac mae dau becyn seiclo newydd sydd â manylion reidiau undydd. Yn y pecynnau mae mapiau â llwybrau teithio manwl, y llwybrau sy’n addas i’r teulu i gyd, gwybodaeth am yr ardal, atyniadau ar bwys y llwybrau a mannau aros sy’n gydnaws â seiclwyr.
www.cyclepembrokeshire.com (mewn ffenest newedd)
www.greenwaysholidays.com (mewn ffenest newedd)

 

 

 

partners logos
Developed by Pembrokeshire County Council - Datblygwyd gan Cyngor Sir Penfro