
Mae gyda Sir Benfro rwydwaith gwych o fysiau a gwasanaeth trên defnyddiol
hefyd sy’n eich cludo trwy gefn gwlad, trefi a phentrefi godidog.
Mae cyrraedd cefn gwlad Sir Benfro, ar y trên neu’r bws hirdaith,
yn fater rhydd iawn. Ac mae teithio o amgylch yr ardal wedyn yn rhwyddach
fyth!
I gael gwybodaeth ynghylch sut i ddefnyddio cludiant cyhoeddus i ddod i Sir
Benfro, edrychwch ar y ddolen ganlynol er mwyn cael gwybodaeth am drenau, bysiau
pleser a fferis.
www.traveline-cymru. org.uk (mewn ffenest newedd)
Mae gyda Sir Benfro rwydwaith gwych o fysiau, gyda gwasanaethau’n mynd
i bob prif dref chwe diwrnod yr wythnos. Mae teithio ar y bws er mwyn
mynd i’r mannau gwledig mwy poblogaidd yn rhwydd dros ben, ond mae rhai
mannau gwledig yn cael gwasanaethau bws yn llai aml neu’n cael cludiant
cymunedol i fodloni eu hanghenion. Er mwyn gweld pa mor bell y gallwch
chi fynd ar y bws, edrychwch ar y map cludiant a’r amserlenni!
www.pembrokeshire.gov.uk/bustimetables (mewn ffenest newedd)
Bysiau Arfordirol Sir Benfro – gwasanaethau bws lleol sy’n teithio ar hyd yr arfordir er mwyn eich helpu i fynd at deithiau cerdded, traethau, teithiau cychod, pentrefi ac atyniadau lleol.
Bydd
y bysiau hyn yn teithio lan a lawr arfordir y Parc Cenedlaethol, gan ddarparu
cludiant cyhoeddus sy’n golygu bod pob cam o Lwybr Cenedlaethol llwybr
Arfordir Sir Benfro sy’n ymestyn am 186 milltir (299km) o Landudoch i
Lanrhath, o fewn cyrraedd ichi. Felly, gallwch gerdded ar hyd llwybr
yr arfordir mewn un cyfeiriad heb orfod dod yn ôl yr un ffordd.
www.pembrokeshire.gov.uk/coastbus (mewn ffenest newedd)
Bws cymunedol yw ‘Draig Werdd y Preseli’ sy’n mynd â cherddwyr
at y Preseli, sef ardal fwy pellennig o’r Parc Cenedlaethol. Mae’r
bws cymunedol yma hefyd yn helpu pobl leol i fynd i’r dref - cyfuniad
perffaith.
Bydd y gwasanaeth hwn yn gweithredu ar ddyddiau Mawrth, Sadwrn ac ambell ddydd
Sul trwy gydol yr haf (rhwng mis Mai - Medi).
www.prta.co.uk (mewn ffenest newedd)
Yn yr haf bydd y bws atyniadau i ‘Ymwelwyr Undydd’ yn galluogi
ymwelwyr undydd i fynd at 11 o atyniadau o ardal Dinbych-y-pysgod/Saundersfoot
- heb orfod defnyddio’r car. Mae’r Ymwelydd Undydd yn fargen
wych - dim ond £6 i deulu o bedwar ac mae’r holl atyniadau sy’n
rhan o’r cynllun yn cynnig disgowntiau bendigedig i ddefnyddwyr y bws.
www.visitpembrokeshire.com/daytripper (mewn ffenest newedd)
Gyda’r gwasanaeth trên yn Sir Benfro mae’n rhwydd teithio
i’r sir ac mae’n ddolen gyswllt fuddiol rhwng y trefi a’r
ardal wledig o amgylch. Mae Lonydd Glas wedi datblygu teithiau cerdded
o bob gorsaf reilffordd – felly mae gyda chi ragor o resymau da dros
fynd ar drên!
www.pembrokeshire.gov.uk/trains (mewn ffenest newedd)
www.nationalrail.co.uk (mewn ffenest newedd)
www.prta.org.uk (mewn ffenest newedd)
