Pembrokeshire Greenways \ Lonydd Glas Sir Benfro

Beth yw Lonydd Glas Sir Benfro?

Menter i annog trigolion lleol ac ymwelwyr, o bob gallu, i fynd i gefn gwlad trwy ddefnyddio dull cynaliadwy o deithio, yn cynnwys cerdded, seiclo, bysiau a threnau, yw Lonydd Glas Sir Benfro. 'Lonydd Glas' oedd y prosiect gyntaf o'i fath i gael ei ddatblygu yng Nghymru a chafodd ei sefydlu ym 1984 fel prosiect peilot Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn Ne Sir Benfro, o dan reolaeth SPARC (PLANED erbyn hyn). Yn sgîl llwyddiant y cynllun peilot newydd mae Prosiect Lonydd Glas wedi cael ei ehangu erbyn hyn er mwyn cynnwys Sir Benfro drwyddi-draw, o dan reolaeth Partneriaeth y Lonydd Glas. Mae partneriaid Lonydd Glas yn cynnwys y sefydliadau canlynol: Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Amgylchedd Cymru, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Grwp Mynediad Sir Benfro, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Bwrdd iechyd Lleol Sir Benfro, Cyngor Sir Penfro a PLANED. Mae'r bartneriaeth greiddiol hon yn rheoli'r cynllun, gyda 'Fforwm Ymgynghorol' ehangach o fusnesau a sefydliadau lleol yn cynorthwyo i enwi a datblygu prosiectau newydd.

Y Fforwm Ymgynghorol

Beth Am Gymryd Rhan Fel rhan o’r rhaglen mae ‘Fforwm Ymgynghorol’ ehangach o fusnesau a sefydliadau a grwpiau diddordeb lleol yn cael gwahoddiad i gymryd rhan ym mhrosiect Lonydd Glas. Bydd y Fforwm yn cyfarfod yn rheolaidd er mwyn creu syniadau a mentrau newydd i ddatblygu a gwella prosiect Lonydd Glas. I gael manylion y Fforwm nesaf byddwch cystal â chysylltu â’r Swyddog Lonydd Glas yn: greenways@pembrokeshire.gov.uk

partners logos
Developed by Pembrokeshire County Council - Datblygwyd gan Cyngor Sir Penfro